Rhif y ddeiseb: P-05-1008 Teitl y ddeiseb: Dysgu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn ysgolion Cymru Testun y ddeiseb: Am gyfnod llawer rhy hir yn awr, mae llofrudd tawel wedi bod yn peri galar yng Nghymru. wrth i bobl ddirifedi golli anwyliaid ar ôl brwydr anhysbys. Diben y ddeiseb hon yw pwyso am hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn ysgolion er mwyn creu cymdeithas lle bydd pobl bob amser yn cael y cymorth a’r arfau i ymladd y frwydr ofnadwy y mae llawer yn ei hwynebu bob dydd, gan achub bywydau llawer, gobeithio. |
Mae iechyd a lles meddyliol ac emosiynol wedi'i gynnwys yn y cwricwlwm cyfredol trwy addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Mae darparu ABCh yn ofyniad statudol yn y cwricwlwm sylfaenol, ond yr ysgol sydd i benderfynu beth yw’r cynnwys. Mae’r fframwaith anstadudol, y Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru (2008) yn awgrymu dulliau i’w cymryd, a deilliannau dysgu. Mae iechyd a lles emosiynol yn un o bum thema'r fframwaith ABCh.
Bydd y Cwricwlm newydd i Gymru ar gyfer plant 3-16 oed yn cael ei gyflwyno ym mhob ysgol sydd wedi’i chynnal, a phob lleoliad meithrin sy’n derbyn nawdd cyhoeddus, o fis Medi 2022 ymlaen, fesul cam. Cafodd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ei gyflwyno i'r Senedd ar 6 Gorffennaf 2020. Mae'r Bil yn nodi beth yw pedwar diben y cwricwlwm:
§ Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
§ Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
§ Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru a’r byd;
§ Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y bydd y Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru wedi'i lywio gan ddibenion yn hytrach na’i liwio gan y cynnwys. Nid oes cynnwys penodol ar gyfer addysgu’n cael ei nodi yn yr un modd ag o dan y cwricwlwm cenedlaethol presennol.
Mae'r Bil yn nodi chwe Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer y cwricwlwm newydd a'r elfennau gorfodol ynddynt. Dyma’r Meysydd Dysgu a Phrofiad:
§ Y Celfyddydau Mynegiannol
§ Iechyd a Lles
§ Y Dyniaethau
§ Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
§ Mathemateg a Rhifedd
§ Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Yr elfennau gorfodol o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad fydd: Saesneg, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb; Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a Chymraeg
Mae'r Bil yn darparu ‘Cod yr Hyn sy'n Bwysig’ i nodi cysyniadau allweddol dysgu a phrofiad ym mhob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad (gan gynnwys y Dyniaethau) a bydd yn rhaid i gwricwla ysgolion gwmpasu pob un o'r cysyniadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 'Datganiadau o’r Hyn sy'n Bwysig' yn nogfennaeth Cwricwlwm Cymru. Y bwriad yw iddo ddarparu’r ‘dull gweithredu cenedlaethol’ a fydd, yn ôl y Gweinidog Addysg, yn sicrhau cysondeb i ddysgwyr.
Cyhoeddwyd y canllaw statudol dros dro ar Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, ym mis Ionawr 2020. Mae hwn yn nodi:
Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, a lles emosiynol a chymdeithasol.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ynghylch ei ymchwiliad i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, Cadernid Meddwl, ym mis Ebrill 2018. Nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod y Ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru Cyflawnodd [PDF 1.2KB] argymhellion adroddiad y Pwyllgor.
Ym mis Mai 2019, cafwyd diweddariad gan y y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg ar yr argymhellion i'r Pwyllgor CYPE. Ym mis Mehefin 2019, bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith dilynol a chlywed tystiolaeth lafar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg.
Yn 2016, bu’r Pwyllgor yn ystyried dwy ddeiseb, sef Cyflwyno Addysg Iechyd Meddwl Orfodol mewn Ysgolion Uwchradd a Gwneud Iechyd Meddwl yn Rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog Addysg, fel rhan o ddyluniad y cwricwlwm newydd y byddai'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn tynnu ar les meddyliol, corfforol ac emosiynol. O ganlyniad, cytunodd y pwyllgor i gau'r naill ddeiseb a’r llall.
Ar 14 Ionawr 2019 cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasoly bydd £7.1 miliwn ar gael i gefnogi'r Llywodraeth yn ei gwaith, yn dilyn argymhellion y Pwyllgor. Bwriedir i’r arian warchod, gwella a chefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc, trwy ddatblygu gwasanaethau ymhellach. Mae'r buddsoddiad o £7.1 miliwn yn ychwanegol at yr £1.4 miliwn sy’n cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru mewn rhaglen o wasanaethau iechyd meddwl mewngymorth i ysgolion i gryfhau'r gefnogaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed mewn ysgolion mewn pedair ardal beilot ledled Cymru.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol a Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid – wedi'i gadeirio ar y cyd gan y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – i ddatblygu dull ysgol-gyfan tuag at les emosiynol ac iechyd meddwl, fel rhan o ddull system gyfan sydd hefyd yn cydnabod y cysylltiadau rhwng lles meddyliol a chorfforol.
Ar 8 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad, Sefydlu dull ysgol-gyfan o ymdrin ag iechyd a lles meddyliol . Mae'r ymgynghoriad – sy'n cau ar 30 Medi 2020 – yn ceisio barn ar welliannau posibl i’r modd y bydd y fframwaith yn cefnogi’r canlynol:
§ iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol pob dysgwr a'r staff
§ datblygu ac ymgorffori arferion gorau
§ cysondeb a chydweithrediad rhwng ysgolion a phartneriaid
§ gweithgareddau fel hyfforddiant ac ymwybyddiaeth
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gynhwysir yn y briff hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r briffiau hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |